1.            Mae 1,688 cilomedr o ffyrdd yng Nghonwy, gyda chyfanswm gwerth asedau o £1.2 biliwn, wedi ei fesur yn ôl cost amnewid gros.  Y rhwydwaith priffyrdd yw ased fwyaf a mwyaf gwerthfawr y Cyngor.  O dan Ddeddf Priffyrdd 1980, fel yr Awdurdod Priffyrdd mae gan Gonwy ddyletswydd statudol i gynnal a chadw’r rhwydwaith ffyrdd mewn cyflwr diogel.

 

2.            Caiff cyflwr ffyrdd dosbarthiadol yng Nghonwy ei fesur yn flynyddol gan ddata arolwg SCANNER awtomatig.  Dangosir y canran o ffyrdd A, B a C sydd mewn cyflwr cyffredinol gwael yn y tabl isod:

 

Blwyddyn

% y ffyrdd mewn cyflwr gwael

A

B

C

2017/18

3.5

4.3

14.4

2016/17

3.1

4.3

15.7

2015/16

2.9

4.3

15.3

 

Ffyrdd diddosbarth yw 60% o'r rhwydwaith ac ni chant eu mesur gan systemau SCANNER, ond mae data ansoddol yn awgrymu eu bod mewn cyflwr gwaeth na Ffyrdd C, ac yn gwaethygu fel y caiff gwariant cyfalaf ei wario ar ffyrdd dosbarthiadol.   

 

3.            Amcangyfrifir bod angen buddsoddiad blynyddol o £2 filiwn mewn cynlluniau ailadeiladu a thriniaethau ataliol i gynnal cyflwr sefydlog ffyrdd cerbydau a throedffyrdd Conwy.  Yn ogystal amcangyfrifir bod ôl-groniad cynnal a chadw o fwy na £20 miliwn (heb gynnwys pontydd, waliau cynnal, draenio na golau stryd).

 

4.            Ers diwedd cyllid Menter Benthyca Llywodraeth Leol yn 2014/15, mae buddsoddiad cyfalaf blynyddol Conwy mewn ailwampio ffyrdd cerbydau a throedffyrdd wedi bod yn sylweddol is na’r £2 miliwn angenrheidiol ac mae’n cynyddu’r ôl-groniad cynnal a chadw cyfalaf bob blwyddyn.

 

Blwyddyn

Buddsoddiad Cyfalaf CBSC

£

2018/19

664,000

2017/18

664,000

2016/17

1,000,000

2015/16

450,000

 

5.            Dylid edrych ar lefelau buddsoddi blynyddol yng nghyd-destun cyfanswm gwerth rhaglen gyfalaf y Cyngor o £5.5 miliwn yn unig ar gyfer 2018/18. Yn ogystal ag ailwampio priffyrdd, rhaid i’r gyllideb hon gynnwys meysydd fel arian cyfatebol  Moderneiddio Ysgolion Cynradd, addasiadau statudol i dai'r sector preifat, gwaith trwsio ac ailwampio cyfalaf mewn ysgolion, atgyweirio pontydd a waliau cynnal, golau stryd newydd ac arian cyfatebol prosiect a dyluniad cynllun gwarchod arfordirol a llifogydd.

 

6.            Bydd diffyg buddsoddiad parhaol mewn seilwaith priffyrdd yn golygu dirywiad pellach mewn cyflwr, cynnydd mewn costau ailadeiladu, trwsio a chynnal a chadw, cynnydd mewn hawliadau trydydd parti llwyddiannus yn erbyn y Cyngor a risg o fethu bodloni dyletswyddau statudol. Rydym eisoes yn gweld anfodlonrwydd ymysg y cyhoedd ac aelodau etholedig, yn arbennig o safbwynt cyflwr ffyrdd preswyl di-ddosbarth.  Bydd y gaeaf garw diweddar wedi cael effaith negyddol sylweddol ar gyflwr ffyrdd ac yn golygu eu bod yn dirywio’n gynt.

 

7.            Sylweddolir bod cefnffyrdd yn flaenoriaeth, fodd bynnag mae rhagdybiaeth fod cyllid ar gyfer gwaith cynnal a chadw a gwella yn anghymesur o’i gymharu â chyllid ar gyfer y rhwydwaith ffordd sirol.

 

8.            Ar hyn o bryd mae Cymdeithas Syrfewyr Sirol Cymru wrthi’n cwblhau Prosiect Cynllunio Rheoli Asedau Priffyrdd ar ran y 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru.  Nod y prosiect yw ceisio dwyn ynghyd gynllunio rheoli asedau priffyrdd ar draws Cymru, a datblygu cynlluniau arolygu ar sail risg a gweithdrefnau cynnal a chadw yn unol â Chod Ymarfer newydd y DU ‘Seilwaith Priffyrdd a Reolir yn Dda’. Dylid ystyried dadansoddi risg i gefnffyrdd ar yr un sail, i benderfynu a yw lefelau cyfredol o fuddsoddi ar gefnffyrdd a ffyrdd sirol yn gymesur â risg cymharol.

 

9.            Dylid ystyried dyrannu cyllid ar gyfer gwelliannau cyfalaf i ffyrdd sirol, cynlluniau diogelwch ar y ffyrdd a darparu llwybrau Teithio Llesol yn uniongyrchol i Awdurdodau Lleol (neu gonsortia o Awdurdodau), fyddai'n galluogi mwy o fewnbwn lleol i'r broses o wneud penderfyniadau ac yn dileu biwrocratiaeth ddiangen o ran dyfarnu a sgorio grantiau. 

 

10.         I grynhoi, mae Conwy o'r farn bod dull gweithredu rheoli asedau, hir dymor, yn angenrheidiol er mwyn cynnal a chadw a gwella cyflwr y ffyrdd yng Nghymru, sef ased mwyaf y genedl.  Dylai hyn gynnwys prosesau gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar risg gyda mewnbwn lleol a'i ddefnyddio gyda rhwydweithiau ffyrdd sirol a chefnffyrdd, a gefnogir gan raglen gyllido hir dymor briodol sy'n atal dirywiad pellach.  Bydd methu buddsoddi’n ddigonol yn y tymor byr yn pasio costau uwch ymlaen i genedlaethau'r dyfodol.

 

 

Andrew Wilkinson

Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth

27 Ebrill 2018